Bydd Gwobrau Ynni Cymunedol 2017 yn digwydd ar nos Fercher y 1af o Dachwedd yng nghanol dinas Llundain. Estynnwn wahoddiad cynnes i'r sector ynni cymunedol ymuno â ni am noson o ddathlu gyda diodydd croesawu i agor y noson, wedi'u noddi gan Energy Saving Trust, yn yr Ystafell Fyw yn Neuadd y Ddinas, Llundain. Os hoffech chi ddod i'r digwyddiad, cofrestrwch trwy dudalen Eventbrite.
Neuadd y Ddinas, Llundain
Mae gan y broses enwebu ddau gam. Mae cam cyntaf y broses enwebu bellach ar agor ac rydym ni'n gofyn am grynodeb 500 gair am y person neu sefydliad sy'n cael ei enwebu. Mae mwy o fanylion ar feini prawf yr asesiad wedi'i amlygu ar gyfer pob categori o'r gwobrau isod. Dyddiad cau derbyn enwebiadau ydy 8 Medi. Mae modd enwebu mudiadau a phobl ar gyfer mwy nac un categori gwobrau.
Caiff rhestr fer o enwebiadau ei llunio gan Ynni Cymunedol Cymru ac Ynni Cymunedol Lloegr. Os caiff enwebiad ei roi ar y rhestr fer, byddwn ni'n gofyn i'r enwebydd am wybodaeth fanylach ar 15 Medi, a bydd angen dychwelyd yr wybodaeth hon erbyn 5 Hydref.
Bydd enillwyr y gwobrau yn derbyn:
- Tlws a thystysgrif
- Caiff astudiaeth achos ei lunio amdanyn nhw a'i rannu gyda'r cyfryngau
- Cael eu hychwanegu at Wal Enwogrwydd Gwobrau Ynni Cymunedol
- Stamp gwobrau swyddogol ar gyfer eu gwefan.
Enillwyr a'r rhai gafodd eu henwebu yn 2016
Eleni mae 7 gwobr gaiff eu beirniadu gan banel o arbenigwyr diwydiannol mawr eu parch sy'n cynnwys...
- Patrick Allcorn - Pennaeth Ynni Lleol, BEIS
- Leonie Cooper - Cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd Cynulliad Llundain
- Alistair Macpherson - Prif Weithredwr Cymuned Ynni Aberplym a Hyrwyddwr Ynni Cymunedol 2016
- Philp Selwood - Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
- ... a mwy i'w cadarnhau.
Bydd Gwobr Llun o Ynni Cymunedol, sy'n newydd yn 2017, yn wobr caiff y cyhoedd bleidleisio amdani.
Mae amrywiaeth o gyfleoedd nodd i ar gael.
Y categorïau gwobrau ar gyfer 2017 ydy:
Gwobr Prosiect Ynni Adnewyddadwy Cymunedol
Y prosiect cynhyrchu trydan cynaliadwy mwyaf canmoladwy gan grŵp cymunedol.
Bydd y mesurau llwyddiant yn cynnwys:
- Darparu'r prosiect
- Faint mae'r gymuned wedi ymrwymo i'r prosiect/defnyddio gwirfoddolwyr
- Faint o fuddion sydd i'r gymuned
- Effeithiolrwydd tîm rheoli prosiect
Mae'n rhaid i sefydliadau gaiff eu henwebu ar gyfer y wobr hon fod yn aelodau o Ynni Cymunedol Cymru neu Ynni Cymunedol Lloegr.
Enillydd 2016: Awel Aman Tawe [darllenwch yr astudiaeth achos] (Gwobr 2016 wedi'i noddi gan Naturesave)
Canmoliaeth 2016: Ynni Anafon Energy
Enillydd 2015: Chase Community Solar
Gwobr Arbed Ynni yn y Gymuned
Y grŵp cymunedol sydd wedi cyflawni'r cynllun arbed ynni a/neu'r prosiect rheoli ynni mwyaf dylanwadol.
Bydd y mesurau llwyddiant yn cynnwys:
- Effeithiolrwydd y cynllun
- Faint o bobl mae'r cynllun wedi'i helpu neu sydd wedi gwneud rhywbeth cadarnhaol o ganlyniad
- Faint o ynni gafodd ei arbed
- Pa mor arloesol oedd y cynllun
- Natur dyblygu'r cynllun.
Enillydd 2016: Cydweithfa Gwasanaethau Ynni Brighton & Hove [darllenwch yr astudiaeth achos]
Enillydd 2015: Wey Valley Solar Schools Energy Co-operative
Gwobr Partner Awdurdod Lleol
Yr Awdurdod Lleol sydd wedi gwneud y mwyaf i helpu sefydliadau ynni cymunedol lleol trwy waith partneriaeth, buddsoddi, polisïau neu gymorth arall.
Bydd y mesurau llwyddiant yn cynnwys:
- Sut cafodd y berthynas ei chreu
- Yr hyn sydd wedi'i gyflawni hyd yma
- Pa adnoddau sydd wedi'u sicrhau/cyfrannu
- Faint mae'r gymuned yn cymryd rhan ac yn cydweithio
- Natur dyblygu
Enillydd 2016: Cyngor Dinas Aberplym [darllenwch yr astudiaeth achos] (Gwobr 2016 wedi'i noddi gan Northern Powergrid)
Enillydd 2015: Cyngor Cernyw
Gwobr Cydweithio
Y cydweithredu sydd i'w ganmol fwyaf rhwng partneriaid cymunedol a masnachol / cyhoeddus / trydydd sector.
Bydd y mesurau llwyddiant yn cynnwys:
- Yr hyn sydd wedi'i gyflawni hyd yma
- Pa mor gymhleth neu arloesol (er enghraifft, efallai bod materion anodd, cyfreithlon neu strwythurol i'w ymdrin â nhw neu faterion caffael a gweithdrefnau anodd)
- Faint mae'r gymuned yn cymryd rhan ac yn gwirfoddoli
- Sut cafodd yr adnoddau eu rhannu
- Natur dyblygu
Enillydd 2016: Cyd Ynni [darllenwch yr astudiaeth achos]
Enillydd 2015: Hydro Cymunedol Saddleworth
Gwobr Cyllid Ynni Cymunedol
Y grŵp cymunedol a/neu ei gyllidwyr a'i gynghorwyr sydd wedi cyflwyno'r canlyniadau mwyaf dylanwadol trwy nifer o fecanweithiau/offer ariannol. Er enghraifft, gall hyn fod trwy arian grant, cyllido dyledion, cyfrannau cymunedol, cyfryngau ariannu neu fodelau ariannu newydd.
Bydd y mesurau llwyddiant yn cynnwys:
- Sut mae wedi helpu prosiectau ynni cymunedol neu tuag at ddatblygiad y sector
- Beth sydd wedi'i gyflawni neu ei ddarparu
- Sut mae wedi helpu i sicrhau'r buddion mwyaf i'r gymuned neu annog arloesedd
Enillydd 2016: The Naturesave Trust and Naturesave Policies Ltd [darllenwch yr astudiaeth achos]
Enillydd 2015: Ethex
Hyrwyddwr Ynni Cymunedol
Y person sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i ddatblygiad y sector ynni cymunedol dros y blynyddoedd diweddar.
Bydd y mesurau llwyddiant yn cynnwys:
- Ymrwymiad personol
- Gallu i ysbrydoli ac ysgogi pobl eraill
- Gallu i feithrin a datblygu syniad
- Gallu i sicrhau cyllid
- Yn y bôn, yr hyn maen nhw wedi'i gyflawni.
Enillydd 2016: Alistair Macpherson [darllenwch yr astudiaeth achos] (Gwobr 2016 wedi'i noddi gan Scottish and Southern Energy Power Distribution)
Enillydd 2015: Jon Hallé ac Adam Twine
Gwobr newydd ar gyfer 2017
Gwobr Llun o Ynni Cymunedol
Mae gennym ni gategori gwobr newydd ar gyfer 2017! Y tro hwn, dyma wobr greadigol i ffotograffwyr. Rydym ni eisiau gweld lluniau gwreiddiol sy'n crynhoi beth ydy hanfod y symudiad ynni cymunedol.
Y cyhoedd fydd yn dewis pwy gaiff y wobr hon trwy bleidleisio ar-lein cyn ac yn ystod y ddefod wobrwyo.
Bydd yr enillydd yn derbyn canfas o'u llun ac fe gaiff y llun ei ddefnyddio fel rhan o Adroddiad Cyflwr y Sector 2018 ac mewn gwaith ehangach wrth hyrwyddo'r sector.
Mae'n rhaid anfon pob enwebiad llun at awards@communityenergyengland.org ynghyd â
- Enw'r ffotograffydd
- Manylion o'r hyn gafodd ei dynnu
- Pam fod y llun yn crynhoi beth ydy hanfod ynni cymunedol
- Caniatâd gan ffotograffydd neu berchennog y llun i Ynni Cymunedol Lloegr ddefnyddio'r llun mewn deunydd cyhoeddusrwydd, marchnata a hyrwyddo gan gynnwys ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol os ydy'r llun yn ennill ai peidio.
Pob hwyl. Gobeithio y cawn eich gweld ar y 1af o Dachwedd yn Llundain.